SL(6)114 – Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2022

Cefndir a diben

Sefydlwyd Cynllun Masnachu Allyriadau ("ETS") y DU gan Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020 ("y prif Orchymyn") fel cynllun masnachu allyriadau nwyon tŷ gwydr ar gyfer y DU gyfan, fel ffordd gost-effeithiol o annog y sectorau pŵer, diwydiant ac awyrennau i leihau eu hallyriadau. Cafodd ei gynllunio ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon. Mae'n cyfrannu at dargedau lleihau allyriadau a nod sero net y DU, yn ogystal â'r llwybr lleihau allyriadau sydd gennym yng Nghymru.

Mae'r ETS yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr mathau penodol o osodiadau diwydiannol a gweithredwyr mathau penodol o awyrennau fonitro, adrodd ar ac ildio "lwfansau" sy'n cyfateb i'w hallyriadau nwyon tŷ gwydr ym mhob un o flynyddoedd y cynllun. Cedwir lwfansau mewn cyfrifon yng nghofrestrfa ETS y DU, ac mae cap ar nifer y lwfansau y gellir eu creu. Ar gyfer gosodiadau sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd, mae dau gynllun optio allan, sef un ar gyfer "ysbytai neu allyrwyr bach" ("HSE") ac un ar gyfer "allyrwyr bach iawn" ("USE"). Nid oes angen i osodiadau o'r fath ildio lwfansau.

Mae'r prif newidiadau a wneir gan y Gorchymyn hwn yn cynnwys:

§  galluogi rheoleiddiwr i osod cosb sifil pan na fydd person yn cydymffurfio â hysbysiad i ddychwelyd lwfansau;

§  ymestyn y pŵer i gynnal archwiliadau o safleoedd i fonitro cydymffurfiaeth, fel y gall person awdurdodedig ddefnyddio'r pŵer (nid rheoleiddwyr yn unig);

§  ei gwneud yn drosedd rhwystro person yn fwriadol wrth iddynt arfer pwerau mynediad;

§  ei gwneud yn ofynnol i weithredwr gosodiad ildio unrhyw lwfansau sy’n brin o flynyddoedd blaenorol y cynllun pan fydd ei drwydded naill ai wedi'i hildio neu ei dirymu.

Gweithdrefn

Cadarnhaol Drafft.

Gosodwyd drafft o'r Gorchymyn gerbron Senedd Cymru, Senedd y Deyrnas Unedig, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon. Rhaid i'r drafft gael ei gymeradwyo gan bob un o'r deddfwrfeydd hynny cyn y gellir ei wneud gan Ei Mawrhydi.

 

 

Materion technegol: craffu

Nodwyd un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.2(ix) – nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Gosodwyd drafft o'r Gorchymyn gerbron Senedd Cymru, Senedd y Deyrnas Unedig, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon. Felly, mae'r Gorchymyn drafft yn Saesneg yn unig a chaiff ei wneud yn Saesneg yn unig.

Rhinweddau: Craffu    

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

11 Ionawr 2022